Mae Iwan Bala yn adnabyddus fel artist, awdur a darlithydd. Mae wedi cynnal arddangosfeydd unigol yn flynyddol ers 1990, wedi cymryd rhan mewn nifer o arddangosfeydd grŵp yng Nghymru a thramor, ac mae ei waith i’w weld mewn sawl casgliad cyhoeddus a phreifat. Dangoswyd ei waith mewn pedair dinas yn Tsieina yn 2009. Mae wedi cyhoeddi llyfrau a thraethodau ar gelf gyfoes yng Nghymru, wedi darlithio yn aml ar y pwnc, yn ogystal â chyflwyno a chael ei gyfweld ar y cyfryngau. Trafodir gwaith Iwan Bala mewn nifer helaeth o gyhoeddiadau ar gelfyddyd gyfoes yng Nghymru.