Ers blynyddoedd bellach, r’wyf wedi teimlo fod gennyf gysylltiad mynegiadol gyda beirdd Cymraeg. O weithio yn agos gyda’r diweddar Iwan Llwyd, gyda Twm Morys, Mererid Hopwood a David Greenslade, Cymry o’r un genhedlaeth, gwelais fod ein syniadau, a’n gwaith creadigol yn rhannu themâu, a’n mynegiant yn hanu o’r un cefndir a diwylliant, o’r un anian. Yn y gorffennol, mae’r gwaith a greais wedi bod yn ddarluniadol (illustrative). Un ai mae’r bardd yn trosi’r gwaith gweledol i eiriau, neu r’wyf i yn trosi’r geiriau i’r ddelwedd. ‘Ekphrasis’ yw’r term academaidd am hyn wrth gwrs. Gyda’r gwaith diweddar y bum yn ei greu dros y flwyddyn a aeth heibio, r’oeddwn eisiau mynd ymhellach ac yn ddyfnach o dan yr wyneb na hynny, a thrwy’r cyd drafod a fu rhyngof â Menna Elfyn, r’oeddwn am geisio olrhain ysbrydoliaeth ei gwaith, ac ail-greu y teimlad o farddoni drwy grafu’r geiriau fel nodiadau ar y papur. Dyna ble y daeth y syniad am ‘Nodiadau-maes’, term anthropolegwyr am y nodiadau a wnant wrth astudio diwylliannau eraill. Cefais fy ysgogi ymhellach drwy gael rhwydd hynt gan Menna, i ddarllen ei ‘llyfrau lloffion’ ble mae hi yn casglu syniadau a gwybodaeth cyn creu cerddi. Hoffwn y ffordd mae modd gweld y gerdd yn datblygu, y croesi allan, yr ymbalfalu am eiriau, a’r newidiadau. Mae’r darluniau yn ddarnau o gerddi, gwaith mewn proses, fel pe baent yn cael eu creu ar y pryd, efo’r croesi allan, y camgymeriadau, yr ymgais at gyfieithu weithiau a’r geiriau yn llifo ac yn diflannu efo rhediad yr inc ar y papur. Geiriau eraill yn eu goroesi, fel ‘palimpsest’. Ceisiais greu teimlad hynafol yn y gwaith, fel tudalenau wedi melynu gydag amser, fel hen lyfrau â staen lleithder arnynt. R’oeddwn yn meddwl am artistiaid a fu’n defnyddio geiriau, nid yn gymaint y niferoedd cyfoes a wna hyn ond rhai fel David Jones a William Blake, artistiaid oedd hefyd yn barddoni. O ddarllen cyfieithiadau o gerddi Menna, synais mor wahanol y gall y gerdd ddarllen yn y Saesneg. Ambell waith, roeddynt yn gerddi hollol wahanol i’r gwreiddiol.
Gwnaeth hyn i mi feddwl am enwau llefydd yng Nghymru, sut mae ystyr, a hanes llefydd yn diflannu yn llwyr drwy eu hail enwi yn y Saesneg..e.e pentref ‘Y Dderwen Gam’ yn newid i ‘Oakford’, neu ‘Llyn Tegid’ yn newid i ‘Bala Lake’ ac yna yn ôl i’r Gymraeg fel ‘Llyn Bala’. Mae’r llun ‘Etymoleg’ yn trafod hyn. Enwau ffermydd sydd yn y Gymraeg yn nodi digwyddiadau hanesyddol, fel Maes y Gadfa, beth a ddigwydd pan gollwn yr enwau hyn oll o’r ffermydd wrth uno yn ffermydd mwy eu maint, a’r tai fferm yn mynd yn dai haf; ‘Robin’s Nest’ ac yn y blaen fydd gennym ar eu hôl. Mae’r enwau hyn yn nodi ein hanes a’n daearyddiaeth mewn ffordd debyg i ‘songlines’ brodorion Awstralia. Hebddynt byddwn ar goll mewn tirwedd estron ymysg estroniaid. Mae un llun yn rhoi hanes hen ewythr i mi a gollodd ei fferm Pwll Naid oherwydd iddo ennill sedd ar y Cyngor Sir, sedd a oedd hyd at hynny yn perthyn i’r tirfeddiannwr, ei ‘landlord’. Teimla Menna yr un ffordd am hyn, ac am enwau personol a gollwyd, casglodd enwau y gwŷr a aeth i Gatraeth ac a fu farw yn y gyflafan, ac mae un ddelwedd yn nodi’r enwau hyn. Bu i ni gasglu enwau Cymraeg ein teuluoedd ein hunain hefyd, a chreu rhestr ohonynt mewn un arall o’r delweddau.
Yn y flwyddyn a aeth heibio (2010) bu i mi golli fy nhad, ac mae Menna hefyd wedi diodde’r un brofedigaeth yn lled ddiweddar. Ers i fy nhad fynd, mae fy mam-- hithau wedi mynd yn ffwndrus ddychrynllyd, dwy golled enbyd mewn blwyddyn. Mae’r emyn ‘O am yr Hedd’ ar y dôn Rhys, yn un a ddewisodd i gael ei chanu yn ei angladd. Mae yn emyn sydd yn anfon ias drwof pan byddaf yn ei chanu. Efallai fod colli cysylltiad â’r gorffennol fel hyn yn esbonio y teimlad o golled, ac o geisio dal gafael yn y gorffennol llithredig. Fy nhad ddysgodd i mi lawer o’r chwedlau a’r hanesion a oedd yn gysylltiedig â’r enwau llefydd hyn, ac enwau pobol hefyd, wrth i ni deithio yma ac acw dros Gymru. Nid yn unig yng Nghymru mae hyn yn digwydd wrth gwrs: mae globaleiddio yn dinistrio cymunedau ymhobman, traddodiadau yn mynd yn angof, a gwelais hyn fy hun yn Cheina pan es i Chongqing i arddangos a darlithio ddwy flynedd yn ôl. R’oedd yn amlwg fod hyn yn creu cryn bryder i’r myfyrwyr celf y bûm yn darlithio iddynt, ac i lawer o artistiaid y bu i mi eu cwrdd. Mae dinasoedd enfawr yn tyfu ymhobman, a’r boblogaeth yn tyrru iddynt ac yn gadael cefn gwlad yn ddifeithwch. Yng ngorllewin Iwerddon, mae pentrefi yn marw, a thai newydd yn ymddangos fel rhith, yn hollol anghysylltiedig â’r tirwedd, y traddodiadol a’i chynefin.Bydd hyn yn hynod berthnasol gan y bydd yr arddangosfa yn teithio i’r Iwerddon yn 2013, gan gychwyn yng Nghanolfan Celfyddydau Wexford. Mae’n glir i Menna ac i minnau fod Cymreictod yn ei hanfod ynghlwm yn y geiriau, ynghlwm yn yr iaith a’r enwau,ac yn y Gymraeg. Yn y byd sydd ohoni, dirywio mae’r cysylltiadau ynghylch gwreiddiau ym mhob cornel o’r ddaear
Mae’r syniad o greu map, rhywbeth y bûm yn ei wneud ers rhai blynyddoedd, ond sydd yn dyddio yn ôl i gyfnod fy arddegau pan oeddwn wrthi’n ddiwyd yn creu gwledydd dychmygol ar ddarnau o bapur sbâr. Byddwn wrthi am oriau yn creu dinasoedd a ffyrdd, afonydd, mynyddoedd ac hefyd yn creu hanes i bob darn o’r map, yn olrhain ymerodraethau a rhyfeloedd, dinistr, chwyldro a diwylliannau, eu mynd a’u dod. A hyn oll mor fyw i mi ag yw’r gemau sydd mor rhwydd eu cael ar y cyfrifiadur bellach. R’oeddwn yn hapus yn gwario oriau ar fy mhen fy hun yn fy ystafell, proses debyg I fod yn y stiwdio heddiw. Ar y mapiau a greais i’r arddangosfa hon mae enwau llefydd, neu bobol, artistiaid ayb, sydd yn gysylltiedig â’r llefydd yn fy meddwl. Bu Menna a mi yn trafod ein dylanwadau, ein hoff nofelwyr a beirdd ac artistiaid, a chrewyd ‘restr’ o’r rhain mewn nifer o ddarnau. Mae ‘Coeden Menna’ yn un o’r rhai hyn.
Mae’n fy nharo, o feddwl am y gwaith ac wrth ysgrifennu hwn, fod elfen gref o felancolia ynghlwm yn y gwaith, y ‘felan’ efallai, ond nid yw Menna yn gweld pethau mor dywyll, diolch i’r drefn. ‘Baneri yn erbyn Tywyllwch’ yw un o’r gweithiau cyntaf i mi gwblhau... barddoniaeth yn rhoi hwb calon, er nad yw bob amser yn arbed y bardd ei hunan. R’ydym wedi cytuno i gyflwyno yr arddangosfa er cof am ein cyfaill Iwan Llwyd, un a oedd mor barod i gyd weithio ar draws gwahanol ddisgyblaethau o gelfyddyd.
Mae nifer o’r delweddau yn dangos llygad: Menna yn dyfynnu Siôn Cent, bardd na wyddwn lawer amdano o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, ond mae ei eiriau yn gweddu heddiw fel erioed ‘Ystad bardd astudio byd’. (Yn ôl pob tebyg, rhyw dipyn o besimist oedd o wrth astudio’r byd yn ei waith). R’oeddwn, drwy gyd ddigwyddiad wedi dyfynnu’r union eiriau mewn darlun cyn i mi ddarllen cyfrol ddiweddaraf Menna, un or nifer o gyd-ddigwyddiadau hynny sydd yn dueddol o ddigwydd pan yw gwres y cawl creadigol ar ei anterth, gan daflu pob math o ddefnydd a chynhwysion i mewn i’r crochan. Meddyliais am y bardd, a’r artist yn yr un ffordd, fel llygad unigol, yn gorsyllu ar y byd o gwmpas o ryw uchelfan. Gwelais lygad fel hyn am y tro cyntaf ym mhen uchaf tŵr eglwys gadeiriol Santiago de Compostella yn Galicia; llygad wedi ei chreu gan artist mewn dull amrwd oedd, llygad yn edrych lawr ar yr allor ac ar yr addolwyr. Mae i’r llygad unigol amryw symbyliaeth, nid i gyd yn rhai cadarnhaol. Nid tan y flwyddyn diwetha y cefais yr esgus a’r rhwydd hynt i ddefnyddio’r llygad a oedd ers chwe blynedd yn llechu ar ddalen llyfr darlunio o’r cyfnod yn Galicia. Ac yna darllenais gerdd Menna am y llygad yn edrych i mewn arni drwy ddrws cell.. gan weld yn y sefyllfa led ddigalon, oleuni.. a’r drws yn agor; ‘Lygagtddu Gaia..... Namaskara, cyfarchaf y dwyfol ynot, sydd yn creu o’m craidd, ddrws agored’. Do, fe agorwyd y drws yn llydan, ond ni fedrais ddianc.