Geiriau (2013- )

Rydw’i wedi bod â diddordeb mewn barddoniaeth erioed. Mae’n rhywbeth dw i wedi cael fy nwyn i fyny efo fo. Wedi gweithio efo beirdd fel Iwan Llwyd dros y blynyddoedd, dw i’n teimlo bod barddoniaeth a geirie yn rhan bwysig iawn o’r diwylliant dw i’n rhan ohono. Nid dweud rydw i nad ydi celf weledol yn bwysig, ond bod angen y ddau beth, mewn ffordd. Gan fy mod i yn fy ngwaith yn trafod fy niwylliant fy hun, mae’n anhepgor imi ddefnyddio geirie.

Mi gollais i ’Nhad yn 2011, ac mi fues i’n mynd trwy ei lyfre wedyn, ac yn cael hyd i bytie o gerddi roedd o wedi eu tanlinellu; emyne hefyd – pethe roedd o wedi eu nodi er mwyn eu defnyddio. Mi ddechreuais i sgwennu’r rhain i mewn i ’ngwaith i. Pethe fel ‘Dyma gariad fel y moroedd, tosturiaethe fel y lli...’; geirie dw i’n cofio eu canu yn y capel. Ond geirie hefyd o ganu’r Cynfeirdd ymlaen yn sôn yn amal am freuder bywyd. Wnes i ddim trafod digon efo ’Nhad am fywyd a marwolaeth. Erbyn y diwedd, doedd o’n siarad am ddim byd am fisoedd. Ac roedd y cyfle wedi mynd. Mae creu’r gwaith ’ma yn gyfle imi drio dygymod â phethe felly. Ond dydi’r defnydd o’r geirie ddim yr un peth gen i ag oedd o gan fy Nhad flynyddoedd yn ôl. Pam oedd o wedi dewis rhai darne o gerddi? Ar gyfer rhyw wers yn yr ysgol, efalle, achos roedd o’n brifathro. Rydw i’n eu defnyddio nhw yn wahanol, ac wrth gwrs, dydi o byth yn mynd i weld y gwaith yma; dydi o ddim yn mynd i wybod fy mod i wedi mynd trwy ei lyfre. Mae hynny yn codi hiraeth...