Tabernacl

Tabernacl

1,200mm×900mm
Cyfrwng cymysg, Papur Khadi o'r India
2013

HIRAETH
Os ydi diwylliant yn seileidig ar ei lenyddiaeth, bron iawn na fuasai rhywun yn dweud bod ein diwylliant ni, y Cymry, yn ddiwylliant o hiraeth. Rydan ni wastad yn hiraethu am rywbeth allai fod; colledion mawr trwy’r amser yn ein hanes ni; brwydro a cholli o hyd, ond eto dal ymlaen rywsut. Mae hi fel petasai hiraeth a cholled yn cael eu trawsnewid a’u dyrchafu mewn barddoniaeth. Ac mae’r farddoniaeth ’ma yn ein cadw ni mewn stad o feddwl hiraethus. Bardd o’r ddegfed ganrif, dyweder. Mae o wedi marw, wrth reswm! Ond mae ei eirie yr un mor berthnasol rŵan ag oedden nhw pan sgwennwyd nhw. Mae hiraeth yn y geirie eu hunen. Wrth ddarllen y farddoniaeth, rydan ni’n boddi’n hunen, mewn ffordd, yn y gymuned ’ma, y Gymru ’ma, y Cymreictod ’ma sydd wedi bodoli trwy’r canrifoedd. Ac rydan ni’n dal yn rhan o’r peth oherwydd y geirie am ryw frwydre mawr lle mae pawb wedi cael eu lladd! Y syniad ’ma bod gwell byd oedd yn arfer bod wedi cael ei chwalu. Mwya’n y byd rydan ni’n darllen y cerddi, mwya’n y byd mae hiraeth yn mynd yn rhan o’n psyche ni, y Cymry Cymraeg. A phan mae’r peth yn dod yn rhan o’n seicoleg ni, mae’r teimlad o golled yn mynd yn rhywbeth y gallwn ni fel cenedl ymfalchïo ynddo fo, bron. Mi fydda’i’n meddwl weithie mai ymgais ydi holl lên a chwedloniaeth Cymru i ymdopi â’r syniad yma o golled; pethe sydd wedi mynd fel dagre yn y glaw! Ond i unigolyn, mi all y teimlad fod yn llethol. Mae beirdd neu artistiaid neu gerddorion yn ei oresgyn o wrth ei droi yn rhywbeth creadigol, pendant, cadarnhaol. Oni bai ’mod i yn medru creu rhywbeth ohono fo, dw i ddim yn gwybod sut y buaswn i’n dygymod â fo. Efalle, cofia, bod y pethe hyn yn dod yn fwy amlwg wrth i rywun gyrraedd ei ganol oed!