Nodiadau-maes 2

Nodiadau-maes 2

750mm×550mm
Cyfrwng cymysg, Papur Khadi o'r India
2009

11 Iwan Bala Nodiadau Maes 2 2009, cyfryngau cymysg (inc, sercol, dyfrlliw) ar bapur Khadi (papur o waith llaw o India), 75 x 55 cm.

“I mi, mae celfyddyd weledol yn fater o ddiwylliant, yn fodd i mi ymbalfalu o gwmpas yn fy nghefndir a’m gwreiddiau fy hun, er mwyn darganfod llygedyn o olau. Mae celfyddyd yn bryfoclyd, ac mae angen iddi gwestiynu pob sicrwydd ffug a phob icon ffabrigedig. Wedi’r cyfan, mae hanes a thraddodiad yn waith dyn, ac mae’n wledd symudol sy’n tyfu ac yn newid dros amser. Arwydd o ddiwylliant cryf yw ei fod yn caniatáu ailddyfeisio a chwestiynu popeth ynddo’i hun.”

Arlunydd, darlithydd, curadur, awdur, sylwebydd ar y celfyddydau gweledol ac actifydd diwylliannol”, ganed Iwan Bala yn Sarnau ger Y Bala ym 1956. Mae ei waith wedi’i wreiddio mewn mynegi ei hunaniaeth Gymreig.
“Fel mae’r bardd T.H. Parry-Williams yn mynegi yn y gerdd, ‘Hon’, rwy’n cael fy nhynnu’n ôl heb unrhyw obaith o ddianc, at y testun cenedligrwydd, hunaniaeth, diwylliant a dirywiad di-alw’n-ôl yr iaith a fu wrth wraidd hunaniaeth Gymreig yn absenoldeb annibyniaeth wladol ers canrifoedd.”

“Mae gwaith diweddar wedi mwyhau’r defnydd o fapiau, diagramau, testunau sy’n cael eu harddangos fel ‘cymhorthion dysgu’, y defnydd o farddoniaeth a dyfyniadau mewn lluniau. Weithiau, mae geiriau a chyfieithiadau’n ffurfio sail y gwaith gweledol, gan ddisodli delweddaeth. Wrth wneud gwaith fel hyn, mae rhywun bob amser yn gwneud lefel gysylltiedig o ymchwil mewn hanes, mytholeg, ethnograffeg a llenyddiaeth. Yn y gwaith Nodiadau Maes and Geiriau, a gynhyrchwyd o 2010, mae testun fel llun, fel delwedd, wedi cymryd drosodd yn llwyr, er mwyn ceisio cynrychioli iaith a barddoniaeth Cymru drwy’r canrifoedd yn weledol. Mae gweithio ar y cyd â’r bardd, Menna Elfyn, ar Field-notes wedi fy arwain i archwilio’r geiriau sy’n arwyddocáu’r golled hon o diriogaeth a pherthyn yn ei synnwyr haniaethol a ffisegol. Mae enwau’r lleoedd wedi mynd ar goll wrth gyfieithu, sydd hefyd yn golygu y collwyd hanes a naratif, y collwyd llinellau traddodiad hynafol, y collwyd cysylltiadau i wreiddiau a lleoedd sydd wedi buddsoddi mewn enwau lleoedd, barddoniaeth, cartiau achau ac enwau awduron o’r gorffennol ”

“Rwy’n gweld fy ngwaith, yn gasgliadol, fel nodiadau maes, lle mae fy syniadau, damcaniaethau a dychymyg yn cael eu cofnodi. Cefais fy ysbrydoli gan ddyfyniad gan anthropolegwr, James T. Clifford: 'Hwyrach nad oes troi'n ôl i unrhyw un i'w famwlad, dim ond nodiadau maes ar gyfer ei hailddyfeisio.'”

“Pam y mae mapiau yn dangos trefi, afonydd a ffyrdd i ni fel arfer? Rhowch gynnig ar greu eich mapiau eich hunain (naill ai o Gymru neu wlad ddychmygus) ac ysgrifennwch eich hoff awduron, arlunwyr, cerddorion, ffigurau hanesyddol arno – yn hytrach nag enwau lleoedd.” IB
ALLWEDDEIRIAU map, tir, môr, lleoedd, pobl, arysgrif, pennawd, hanes, ysgrifennu, bardd, arlunydd, teulu, treftadaeth, iaith