HAP A HIRBENDOD: HANES GENI CYWAITH
Bu farw’r bardd Nigel Jenkins yn Ionawr 2014. Ddechrau Ebrill, anfonwyd imi gerdd i Nigel yn Gymraeg ac yn Saesneg gan gyfaill iddo ef ac i minnau, sef Twm Morys. Roedd yn gofyn ‘a allwn i wneud rhywbeth â hon’, ac fe es ati yn syth i wneud darlun ohoni, ac ychwanegu stori am Nigel yn prynu het yn Syracuse, NY, a minnau a Twm a’r diweddar Iwan Llwyd ac eraill yn bresennol.
Postiwyd ‘Rhydd’ / ‘Free’ ar fy safle Facebook i, ac ymhen ychydig dyma ferch Nigel, Angharad Jenkins, yn cysylltu. Wyddwn i ddim amdani cynt. Eisiau gweld y darlun roedd hi, ac fe’i gwahoddais i’r stiwdio, a dyma hi’n cyrraedd ag anrheg, sef CD ohoni hi yn canu’r ffidil a’i mam, Delyth, yn canu’r delyn. Cawsom sgwrs hir a difyr, ac yn ddiweddarach, pan chwareais y CD ‘Adnabod’ gan DnA, fe’m cyfareddwyd gan ddwyster y gerddoriaeth. Fe ddaeth Angharad i’r stiwdio eto am goffi, a mwynhau rhyw seibiant bach yng nghanol ei phrysurdeb mawr, a buom yn trafod bywyd, celfyddyd a cherddoriaeth, a hefyd, wrth gwrs, ei phrofedigaeth.
Yn sgil y cyfarfyddiad ffortunus hwn, a brwdfrydedd heintus Angharad yn hwb, dyna syniad yn dod am brosiect cywaith newydd wedi ei seilio i gychwyn ar waith ei thad, ac yn bennaf ar ei haikus. Fe wnes ragor o ddarluniau ‘testunol’, ac fe gyfansoddodd Angharad gerddoriaeth wreiddiol ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau perfformiadol. Mae’r hyn sy’n digwydd drwy hap yn aml yn ysbrydoliaeth i artistiaid creadigol, ond rhaid iddyn nhw fod yn hir eu pennau i beri i rywbeth ddigwydd, pan fydd yr ysbrydoliaeth ddamweiniol yn troi yn brosiect pendant. Felly y ganwyd PROsiect hAIcw, sy’n dwyn ynghyd farddoniaeth, darlunio a cherddoriaeth.
Daw’r ysbrydoliaeth oddi wrth sgrifennu gwych Nigel Jenkins ac oddi wrth gerddoriaeth wych a phersonoliaeth hudolus ei ferch, Angharad. Bydd y mewnosodiad a’r perfformiad byw yn datblygu, ac mewn digwyddiadau i ddod bydd y Prifardd Twm Morys yn cymryd rhan. Bydd llyfr ynghyd â CD a DVD o’r perfformiad ar gael yn 2015.
Cydnabyddwn yn ddiolchgar iawn nawdd yr H’mm Foundation at y cyhoeddiadau hyn. Diolch hefyd i Helen Clifford a Made in Roath am roi inni ein cyhoeddiad cyntaf yn Warws y Milgi yng Nghaerdydd, ac i Amanda Roderick am ein gwahodd i berfformio yn Mission Gallery, Abertawe. Diolch hefyd i Pete Telfer am ffilmio’r digwyddiad ar gyfer Y Wladfa Newydd/ Culture Colony.
Iwan Bala
09/07/14