Atlantea
Atlantea
POBL YR IWERYDD
Mae sawl person wedi olrhain gwreiddiau y Cymru, fel y Gwyddelod, Llydawyr a Galithiaid, nid i dras o fobl Celtaidd, ond i ddiwylliant môr yr Iwerydd; yr Atlantean's ystywaid y Gwyddel, Bob Quinn. Mae e' wedi cynhyrchu cyfres o ffilmiau ar y thema yn yr wythdegau . Mae'n werth cael gafael a'r DVD ohonnynt. Iddo ef, syniad diweddar Ewrosentrig a ffug yw y term 'Celtaidd'. Mae'n cymharu crefydd Cristnogol cynnar Iwerddon (a Chymru) i'r Coptics a Mwslemiaid o'r Aifft, ac yn cymharu dull canu y sean-nós traddodiadol yn Connemara i ganu y Berberiaid yn Morocco. Mae hefyd yn gweld tebygrwydd yn y cylchoedd cerrig a gawn ar hyd ymylon gorllewin Ewrop, eto yn Morocco, gogledd Sbaen, Llydaw, Cymru ac Iwerddon, a chymhariaeth mewn cynlluniau addurniadol a chelfyddydol yn ogystal a mytholeg. Erbyn heddiw, ymddengys fod archwilion genome DNA yn cadarnhau cysylltiadau fel hyn. Os fellu, s'dim syndod fod ynysoedd yn fyw yn y dychymyg.. (na'r ffaith mod i yn teimlo mor gartrefol yng ngogledd Sbaen!) y fordaith hyd arfordir de môr y canoldir, ar hyd gogledd Affrica.. draw i Iberia ac yna fae Biscai i Lydaw ac i Iwerddon a Chymru... yno mae'r gwreiddiau o bosib. Ac os gwreiddiau, pa mor ddwfn a chudd ydynt? A oes mwy o lawer i'r ynys na'r hyn sydd i'w weld uwchben y dwr?