Mapiau, maen’t wedi fy niddori erioed. Fel plentyn a hyd heddiw, rydwi yn astudio mapiau o bob math, Dwi wrth fy modd efo hen fapiau cynnar, medraf drafeilio yn fy nychymyg wrth eu darllen. Maen’t yn llawn symbyliaeth, hanes, diwylliant, breuddwydion. Maen’t yn cynnwys ein holl fodolaeth. R’on I hefyd yn creu mapiau fy hunan, o wledydd a chyfandiroedd dychmygol. Mor gryf oeddynt yn fy meddwl nes fy mod yn eu cofio yn glir hyd heddiw, medrwn ffeindio fy ffordd o’i cwmpas yn hawdd.
Mae traddodiad mewn celf ôl-drefedigaethol, o geisio ail feddiannu map y wlad. Ymgais i gymeryd yn ôl y peth a gollwyd, neu i greu o’r llinellau a orfodwyd ar y wlad gan y concwerwyr, ddelwedd mwy cytun a’r sefyllfa newydd. Yng Nghymru, yn y ganrif ddiwetha’, dechreuodd y diweddar Paul Davies ar y dasg honno, ac er cof amdano y dechreuais innau greu y gyfres ‘Hon, Ffurf fy Ngwlad’. Fy newyddariad i oedd ceisio cyfleu merch ifanc yn llamu, yn hytrach na hen wreigan y ddeunawfed ganrif, Dame Wales, neu ‘fapiau sbwriel’ Paul Davies.